Mae disgyblion yn 9 o ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin wedi cwblhau taith gerdded rithwir o Lanelli i Thaba Tseka yn Lesotho, fel rhan o'r prosiect ryngwladol 'Walk the Global Walk'.

Mae wedi bod yn gyfle gwych i blant ddysgu am y Nodau Datblygu Cynaliadwy, yn ogystal ag am ysgolion mewn gwledydd eraill. Maent wedi mwynhau gweld y tebygrwydd ac wedi gwerthfawrogi'r gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd. Mae cymryd rhan  wedi helpu i gyfrannu at gadw heini a helpu'r plant i ddangos empathi â dysgwyr yn Lesotho sy'n cerdded llawer o filltiroedd i'r ysgol ac yn ôl bob dydd. lesotho walking

Mae'r llwybr rhithwir y mae disgyblion wedi'i ddilyn wedi'u harwain drwy Ffrainc, yr Eidal a Gwlad Groeg, yna i'r Aifft a thrwy wledydd eraill yn Affrica gan gynnwys Rwanda, Tanzania, a Zambia.

Ar ôl i'r ysgolion wneud digon o gamau i gyrraedd pob gwlad, cafodd fideo i'w croesawu gan ysgol yn y wlad honno ei rannu gyda nhw.

Mae disgyblion hefyd wedi cael pasbort swfenîr i gofnodi eu profiad.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Hoffwn longyfarch y plant am gymryd rhan yn y fenter wych hon, sy'n hyrwyddo ffitrwydd corfforol yn ogystal â gwell dealltwriaeth o'r byd a'r heriau sy'n ein hwynebu.

"Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â'n cyfeillgarwch â Lesotho - mae ein plant yn dysgu cymaint wrth ryngweithio'n rheolaidd â'u cyd-ddisgyblion. Yn ystod Walk the Global Walk, maent hefyd wedi dysgu am nifer o wledydd ar hyd eu taith rithwir."

Ychwanegodd Ceri Morris, Pennaeth Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir yn Llanelli: "Mae'r fenter hon yn gymhelliant mawr i'n disgyblion ac maent yn mwynhau gwasanaethau cyfrif camau ar ddiwedd bob wythnos. Mae pob dosbarth wedi bod yn ymchwilio i un o'r wyth gwlad y mae'r daith gerdded yn teithio drwyddi ac yn cyflwyno'r canfyddiadau mewn gwasanaethau rhithwir."

Am fwy o wybodaeth, ewch i Brasgamu i Lesotho - Stepping it out to Lesotho! (padlet.com)


This website was created and maintained with the financial support of the European Union. Its contents are the sole responsibility of CARDET and its project partners and do not necessarily reflect the views of the European Union.
[Project number: CSO-LA/2017/388-223] - Privacy Policy