Mae Sir Gaerfyrddin yn falch eleni o fod yn cefnogi 18 o’i hysgolion gyda Cerdded y Daith Gerdded Fyd-eang, sef tair gwaith y nifer oedd yn rhan o’r prosiect ar y cychwyn. Golyga hyn fod gennym dîm o bron i 100 o Gôl-geidwaid Byd-eang, a chymerodd y mwyafrif mawr ohonynt ran yn y gweithdai hyfforddiant a chynllunio gweithredu ar-lein a gynhaliwyd ar 10 a 12 Mawrth 2021.

Roedd y gweithdy cyntaf ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd 12-14 oed ac roedd yr ail yn anelu at ein disgyblion ysgolion cynradd 9-11 oed. Dechreuodd y rhaglen ar gyfer y ddau gyda chwis neu bos NDCau ac yna crëwyd naws y digwyddiadau gan gyflwyniad gan ddau ymgyrchydd heddwch ifanc, ysbrydoledig o Gymdeithas y Cymod, Ffion Griffiths a Jac Sollis.  Yna cyflwynwyd ein Gôl-geidwaid Byd-eang newydd etholedig i’w rolau ac fe’u hatgoffwyd am rai o’r materion a drafodwyd yn ein pecyn adnoddau NDC 16.

Byddai’n ormod disgwyl i’n pobl ifanc weithredu ar faterion o’r fath heb ragor o fewnbwn a chefnogaeth, felly fe’u cyflwynwyd i swyddog cyfranogiad y cyngor, i gynrychiolyddion o Rhowch Gerdyn Coch i Hiliaeth ac i arlunwyr, beirdd ac animeiddydd digidol. Roedd gan y dewrion hyn gwta 3 munud yr un i roi cyflwyniad yn hyrwyddo eu gwaith, cyn i’r ysgolion ymrannu i ystafelloedd ymneilltuo i benderfynu ar faterion, gweithredoedd a phwy i’w dewis i’w cefnogi.

Dewiswyd nifer o faterion gwahanol gan gynnwys Mae Bywydau Duon yn Bwysig, Hawliau LGBTQ+ a Ffasiwn Cyflym. Rydym yn falch iawn o allu dweud y dewiswyd pob un o’r darparwyr gan o leiaf un ysgol a byddant yn cynnig gweithdai ar gyfer y sawl sydd â diddordeb y mis nesaf.

Roedd yr adborth yn rhyfeddol o gadarnhaol ac roedd yn cynnwys sylwadau fel “Fe wnes i wir fwynhau’r teimlad fod ein lleisiau ni arddegwyr ac oedolion ifanc yn cael eu clywed, fel y gallwn weithredu a bod yna bobl all ein helpu ar hyd y daith.”

Allwn ni ddim aros i barhau i gefnogi’r bobl ifanc ac i weld yr ymgyrchoedd a’r allbynnau creadigol fydd yn deillio o’r gweithdai, yn ogystal â’r cynigion i’n Her Cyfryngau Digidol pan gânt eu rhannu yn ein dathliad rhithiol ym mis Mai. Yn y cyfamser, pob dymuniad da i’n Gôl-geidwaid Byd-eang a’u hathrawon wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol a llawer o ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad.


This website was created and maintained with the financial support of the European Union. Its contents are the sole responsibility of CARDET and its project partners and do not necessarily reflect the views of the European Union.
[Project number: CSO-LA/2017/388-223] - Privacy Policy