Youth climate summit

Ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr, cynhaliwyd Uwch Gynhadledd Newid Hinsawdd gyntaf Ieuenctid Cymru a ddenodd dros 50 o fynychwyr.  Arweiniwyd y digwyddiad gan Lysgenhadon Ifanc ar Hinsawdd Cymru, gyda chefnogaeth Maint Cymru a WCIA, a Nodgeidwaid Cerdded y Daith Gerdded Fydeang o Ysgol Bro Dinefwr ac Ysgol Coedcae, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin. 

Aelodau’r Senedd a gymerodd ran oedd Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros yr Economi & Thrafnidiaeth a John Griffiths, Cadeirydd y Grŵp trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth. Cawsant gwmni’r Cynghorydd Cefin Campbell, Cyngor Sir Caerfyrddin, a Jane Davidson, cyn Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd sydd erbyn hyn yn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Yn dilyn cyflwyniad agoriadol gan Gadeirydd Llysgenhadon Ifanc ar Hinsawdd, Poppy Stowell-Evans, cychwynnodd yr uwch gynhadledd gyda chyflwyniadau gan Nodgeidwaid Bydeang Sir Gaerfyrddin. Cafodd Milly ac Isabel o Bro Dinefwr eu hysbrydoli i gymryd rhan ar ddechrau’r prosiect yn deg yn 2018, wedi iddynt ddysgu yn y dosbarth am bwysigrwydd datblygu cymunedau cynaliadwy, a buont yn gwbl ymrwymedig fyth ers hynny. Roeddent yn siarad yn hyderus am ymgyrchoedd i leihau plastig un defnydd yn yr ysgol a’r gymuned leol, ac am sut roeddent wedi ymchwilio ffyrdd o leihau llygredd awyr y tu allan i’r ysgol. Er gwaethaf heriau’r pandemig, mae Bro Dinefwr wedi partneru’n llwyddiannus gyda mudiadau lleol ac mae’n gosod pwyntiau gwefru ceir trydan ar dir yr ysgol. Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i ddatblygu llecyn dysgu helaeth yn yr awyr agored, y cyntaf o’i fath mewn ysgol uwchradd yng Nghymru, a gynlluniwyd i helpu cynyddu bioamrywiaeth a lleihau allyriadau carbon.  

Yna disgrifiodd Nodgeidwaid Bydeang Blwyddyn 9 o Ysgol Coedcae y camau roeddent wedi’u cymryd i godi ymwybyddiaeth o’r angen i weithredu ar hinsawdd  yn yr ysgol yn gyffredinol ac yn y gymuned leol. Gyda’r ysgolion eraill a gymerodd ran, roeddent wedi cyfrannu at ddigwyddiadau ac wedi arwain ar rannu eu gweithredoedd trwy gyfrwng celf weledol a fideo. “Bu’n flwyddyn mor heriol ac nid oedd modd gwneud yr holl bethau roeddem wedi’u cynllunio. Ond mae bod yn rhan o’r prosiect hwn a’i gynnal yn ystod y clo wedi gwneud inni deimlo’n llai ynysig ac wedi’n cysylltu o ddifrif â’r byd y tu allan. Cawsom y cyfle i ymgysylltu ag ysgolion eraill, elusennau a busnesau, ac arweiniodd hynny at greu ein maniffesto Gweithredu ar Hinsawdd, yr ydym oll mor falch ohono” meddai Lily.  Yna cyflwynodd Coedcae y maniffesto 8 pwynt, a grêwyd ar y cyd gan 6 ysgol leol, ac a gafodd ei gymeradwyo’n swyddogol yn ddiweddar gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Rhoddodd y sesiynau cwestiwn ac ateb a ddilynodd y cyfle i bobl ifanc herio’r gwneuthurwyr penderfyniadau oedd yn bresennol, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau a ofynnwyd gan aelodau’r gynulleidfa.

Pan ofynnwyd iddynt beth roeddent yn feddwl oedd y prif beth ddylai pobl ifanc fod yn ei wneud i helpu’r amgylchedd, roedd pob un o’r panelwyr yn cydnabod ymrwymiad y bobl ifanc oedd yn bresennol, ynghyd ag eglurder eu gweledigaeth. Argymhellodd Lee Waters, y dirprwy weinidog, y dylent ‘fynnu mwy a bod yn ddiamynedd am newid’. Pwysleisiodd hefyd yr angen mawr i bawb wneud mwy a gweithio gyda’i gilydd.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefin Campbell at yr ysbrydoliaeth ragorol a gafwyd gan y bobl ifanc oedd yn bresennol. Dywedodd fod cael y Nodgeidwaid Bydeang i’w herio ef a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill sy’n gyfrifol am agenda Sir Gaerfyrddin ar gyfer newid cynaliadwy wedi gweithredu fel ‘cydwybod gwleidyddol’,  a’i fod wedi cyfrannu at lunio gweithredoedd er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn mynd yn sero carbon niwtral erbyn 2030.

Atgoffodd Jane Davidson y gynulleidfa o natur unigryw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yr oedd wedi helpu ei chyflwyno pan oedd yn aelod o’r llywodraeth. Galwodd ar bobl ifanc i ddefnyddio’r ddeddf i herio’r sawl mewn awdurdod yn y sector cyhoeddus a mynnu mwy gan wneuthurwyr penderfyniadau.

Yna cafwyd dadleuon cryf gan y Llysgenhadon Ifanc ar Hinsawdd ynghylch yr angen i frwydro dros gyfiawnder hinsawdd, ac aethant ymlaen i esbonio eu rôl fel unigolion yn cymell eraill. Dywedodd y cadeirydd, Poppy Stowell-Evans, ‘efallai mai newid hinsawdd yw mater pwysicaf a mwyaf ein hoes’ a galwodd am weithredu radical.

Trwy eu maniffesto 6 phwynt, amlinellodd y Llysgenhadon Ifanc ar Hinsawdd gydag eglurder ac argyhoeddiad beth roeddent eisiau’i gyflawni yn eu sefydliad, gan alw ar fusnesau yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i weithredu.

  “Mae mor galonogol gweld pobl ifanc yn symud llywodraethau yma ac ar draws y byd yn y cyfeiriad iawn. Rydych yn rhoi gobaith i bob un ohonom ar gyfer y dyfodol, yn enwedig gan y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd.” meddai John Griffiths, Llywodraeth Cymru. 

 Mae’r bobl ifanc oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn yn haeddu clod mawr ac mae’r dyfodol yn sicr o gael ei lywio er gwell gan eu penderfyniad i ‘godi lleisiau pobl ifanc yn uwch fyth ar weithredu ar hinsawdd’.

 

 


This website was created and maintained with the financial support of the European Union. Its contents are the sole responsibility of CARDET and its project partners and do not necessarily reflect the views of the European Union.
[Project number: CSO-LA/2017/388-223] - Privacy Policy