Allbynnau

1. Adnoddau a dulliau arloesol ynghylch pynciau datblygu mewn addysg ffurfiol ar gael ac wedi'u hintegreiddio yn y cwricwlwm ysgol;

2. Mwy o ymwybyddiaeth gan fyfyrwyr a disgyblion o Nodau Datblygu Cynaliadwy 11, 13, ac 16 ac o ryng-ddibyniaethau byd-eang rhwng yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd sy'n datblygu, yn ogystal â'u gallu i chwarae rôl a chyflawni eu cyfrifoldebau tuag at gymdeithas drawsnewidiol;

3. Gwella capasiti awdurdodau lleol ac ymgysylltu â nhw wrth ddatblygu addysg a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch eu lefel is-genedlaethol eu hunain

Methodoleg

Cydweithio ar draws y wlad ac ymagwedd gyfranogol:
Mae Walk the Global Walk yn gwella cydweithrediad ymysg gwledydd Ewrop ac yn ehangu amgylchedd ffafriol ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o ddatblygu cynaliadwy ac mae'n gwneud hynny drwy gynnwys partneriaid yn y gwaith o ddylunio gweithgareddau er mwyn gwarantu eu cynaliadwyedd mewn cyd-destunau cenedlaethol.

Methodoleg sy'n canolbwyntio ar y dysgwr a dull Cyfoedion
Cynhwysir dysgwyr mewn proses er mwyn meithrin dealltwriaeth a dysg ddofn ynghylch Nodau Datblygu Cynaliadwy a materion hawliau dynol, er mwyn ystyried a gwerthuso beth maent wedi ei ddysgu ac yn dilyn hynny, gweithredu. Bydd arweinwyr ifanc yn dod yn hyfforddwyr, a gofynnir iddynt ddatgloi potensial eu Cyfoedion a bod yn weithredwyr i ddatblygiad.

Grymuso athrawon:
Mae prosiect Walk the Global Walk yn rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar athrawon i wneud addysg dinasyddiaeth fyd-eang yn rhan annatod o gwricwlwm ysgol, ac, yn y ffordd hon cynnig golwg wahanol ar yr ysgol i'r disgybl, sydd wedi'i ymddieithrio mwyfwy gan bellteroedd sy'n gwahanu ysgol oddi wrth heriau byd-eang maent yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.

Defnydd o dechnolegau newydd:
Bydd datblygu a defnyddio'r llwyfan ar-lein rhyngweithiol fel prif "hwb" ar gyfer holl weithgareddau'r prosiect yn meithrin rhyngweithio rhwng myfyrwyr, addysgwyr ac athrawon mewn gwledydd gwahanol, gan wneud iddynt deimlo'n rhan o gymuned fwy a byd-eang.


Mwy am y prosiect:


This website was created and maintained with the financial support of the European Union. Its contents are the sole responsibility of CARDET and its project partners and do not necessarily reflect the views of the European Union.
[Project number: CSO-LA/2017/388-223] - Privacy Policy